Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 4 Hydref 2018
Amser:
11.00 -
12.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5082
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Jayne Bryant AC Andrew RT Davies AC John Griffiths AC Dai Lloyd AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru Tim Render, Llywodraeth Cymru Keith Smyton, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) |
Croesawodd y Cadeirydd John Griffiths AC i'r cyfarfod fel aelod parhaol o'r Pwyllgor. Diolchodd y Cadeirydd i Dawn Bowden AC am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor.
Datganodd Andrew R.T. Davies AC fuddiant fel ffermwr.
Holodd y Pwyllgor Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad, Ailfeddwl am Fwyd yng Nghymru: Caffael Cyhoeddus mewn cysylltiad â Bwyd.
Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n:
• rhannu â'r Pwyllgor gopi o'i gohebiaeth ddiweddar â Michael Gove, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ynghylch y darpariaethau ar gyfer ardoll cig coch ym Mil Amaethyddiaeth y DU;
• rhoi manylion pellach i'r Pwyllgor am y camau a gymerwyd ganddi, a'r rhai y mae'n bwriadu eu cymryd, i gynyddu capasiti ac arbenigedd yn ei hadran i baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:
i. cadarnhau cyfanswm y staff a recriwtiwyd a'r swyddi gwag sydd eto i'w llenwi, a
ii. cyfanswm y cyllid a ddyrennir o gyllideb ei hadran i dalu am gost staff ychwanegol a'r gost cyfle cysylltiedig; ac
• egluro am ba hyd y datgymhwysir paragraff 6.2 o TAN 1.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU.
Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
Trafododd y Pwyllgor y drafodaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. Gofynnodd yr aelodau am y canlynol:
Nodyn gan y Gwasanaethau Cyfreithiol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn perthynas â labelu bwyd, a
Nodyn gan y Gwasanaeth Ymchwil ar y darpariaethau ym Mil Amaethyddiaeth Ffrainc sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus mewn cysylltiad â bwyd.